E-bostiwch eich Ymgeiswyr Senedd
Annwyl Aelod,
Ar 7 Mai, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn cymryd rhan yn etholiadau’r Senedd — digwyddiad o arwyddocâd arbennig eleni oherwydd newidiadau mawr i’r system bleidleisio.
Bydd nifer Aelodau o’r Senedd yn cynyddu o 60 i 96, gyda’r Aelodau’n cael eu hethol gan ddefnyddio system gynrychiolaeth gyfrannol newydd, dull D’Hondt. Bydd Cymru’n cael ei rhannu’n 16 etholaeth fwy, a bydd pob un yn ethol chwe aelod. Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau cynrychiolaeth decach i bobl Cymru, gan wneud eich pleidlais yn bwysicach nag erioed.
Rydym hefyd yn mynd i mewn i’r etholiadau hyn yn ystod cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol, gyda phleidiau ac ymgeiswyr newydd yn ymddangos ar y llwyfan, a all ei gwneud yn fwy anodd deall ble mae’r pleidiau’n sefyll ar faterion allweddol.
Mae PCS wedi credu erioed y dylai ein haelodau fod yn gwbl wybodus am bolisïauy rhai sy’n ceisio eu pleidleisiau.
Cyhoeddodd Pwyllgor Gweithredol Cymru maniffesto Etholiad y Senedd ym mis Rhagfyr, sy’n nodi prif ofynion PCS Cymru ar gyfer darpar gynrychiolwyr etholedig, yn seiliedig ar ein polisïau a gytunwyd yn ddemocrataidd. Fe’i cynlluniwyd i chi ei ddefnyddio wrth ymgysylltu ag ymgeiswyr.
Drwy godi ein gofynion gyda’r ymgeiswyr a gwrando’n ofalus ar eu hymatebion, mae PCS Cymru yn credu y bydd aelodau’n mwy parod ar gyfer penderfynu pwy sy’n eu gwerthfawrogi a phwy fydd yn gweithredu er budd aelodau PCS Cymru. Gallwch godi ein gofynion gyda’r ymgeiswyr drwy ddefnyddio’r ddolen a’r llythyr sydd ynghlwm.
Email your Senedd candidates
On 7 May, voters in Wales will take part in the Senedd elections, an event of particular significance this year due to major changes in the voting system.
The number of Senedd Members will be increasing from 60 to 96, with Senedd Members elected using a new proportional representation system, the D’Hondt method. Wales will be divided into 16 larger constituencies, each electing six members. These reforms will deliver fairer representation for the people of Wales, making your vote more important than ever.
We are also entering these elections during a period of political uncertainty, with new parties and candidates emerging on the scene, which can make it more difficult to understand where the parties stand on key issues.
PCS has always believed that our members should be fully informed about the policies of those seeking their votes.
The Wales Executive Committee published a Senedd Election Manifesto in December, which sets out PCS’s key demands for prospective elected representatives, based on our democratically agreed policies. It is designed for you to use when engaging with candidates.
By raising our demands with candidates and listening carefully to their responses, PCS believes, members will be better equipped to decide who values them and who will act in the interests of PCS members. You can raise our demands with candidates by completing this e-action.